Cofnodion y Grŵp Trawsbleidiol ar Rywioldeb Plant - Rhywioli a Chydraddoldeb, 6 Mai 2014

 

 

Yn bresennol:

Jocelyn Davies AC, Cadeirydd

Rhayna Pritchard, ymchwilydd i Jocelyn Davies

Cecile Gwilym, NSPCC, yr Ysgrifenyddiaeth

Joyce Watson AC, Aelod Cynulliad Canolbarth a Gorllewin Cymru

Aled Roberts AC, Aelod Cynulliad Gogledd Cymru

Siriol Burford, Ysgol Gyfun y Cymer

Evie, Myfyrwraig, Ysgol Gyfun y Cymer

Jake, Myfyriwr, Ysgol Gyfun y Cymer

Rebecca Griffiths, Swyddog Materion Cyhoeddus, Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru

Menna Thomas, Barnardo’s Cymru

Meg Kissack, Cymorth i Fenywod

Tina Reece, Cymorth i Fenywod

James Dunn, ymchwilydd i Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig

Ioan Belin, ymchwilydd i Simon Thomas AC

 

 

Eitem 1: Cafodd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a'r broses o ethol y Cadeirydd a'r Is-gadeirydd, eu gohirio ar gyfer cyfarfod arall.

 

 

Eitem 2:  Boys and Girls Speak Out, the next steps. The role of PSE in promoting gender equality and healthy relationships. Yr Athro Emma Renold, Prifysgol Caerdydd.

 

Rhoddodd yr Athro Emma Renold (ER) wybodaeth gefndirol am y gwaith ymchwil, a gynhaliwyd y llynedd gyda chymorth Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru a'r NSPCC. Nod y gwaith ymchwil oedd casglu barn plant a phobl ifanc ar y pethau sy'n bwysig iddynt; fel delwedd o'r corff, ffasiwn, cydberthnasau a chyfeillgarwch.  Roedd y gwaith ymchwil yn cynnwys 125 o bobl ifanc o bump ysgol uwchradd a thair ysgol gynradd yng Nghymru.

 

Aeth ER ymlaen i sôn am brosiect yr oedd yn rhan ohono yn Ysgol Gyfun Plasmawr yng Nghaerdydd, a oedd yn cynnwys pobl ifanc a ysgrifennodd gerdd am stereoteipio ar sail rhyw a phwysau o ran rhyw. Rhoddodd ER gopi o'r gerdd i bawb a oedd yn bresennol.

 

Siaradodd ER hefyd am y grŵp DIGON yn Ysgol Gyfun Plasmawr, a ddatblygodd ddrama yn seiliedig ar ganfyddiadau'r gwaith ymchwil. Mae'r bobl ifanc o'r grŵp hwn hefyd wedi cynnal gweithdai a arweinir gan eu cyfoedion mewn chwech neu saith o ysgolion cynradd.

 

Tynnodd ER sylw at sut y mae'r gwaith ymchwil yng Nghymru wedi'i ddefnyddio gan Maggie Jones yn ei hymgyrch yn Nhŷ'r Arglwyddi yn galw am addysg rhyw gorfodol mewn ysgolion cynradd.

 

Yna aeth ER yn ei blaen i drafod canfyddiadau'r gwaith ymchwil sy'n ymwneud â stereoteipio ar sail rhyw a rhagfarn ar sail rhyw. Soniodd mwy o blant am ddioddef rhagfarn ar sail rhyw o ddydd i ddydd. Yn wahanol i'r hyn a gaiff ei ddarlunio gan y cyfryngau, mae'n well gan ferched ddillad cyfforddus. Mae lefel uchel o bryder ynghylch delwedd o'r corff ymhlith merched: maent yn teimlo eu bod yn cael eu beirniadu a'u gwylio drwy'r amser. Soniodd y merched am roi'r gorau i weithgareddau yr oeddent yn arfer eu mwynhau gan eu bod yn groes i'r syniad sydd ganddynt o "fenyweidd-dra". Roedd bod yn rhywiol yn syniad peryglus.  Roedd merched yn cael trafferth o ran peidio â sefyll allan, a soniwyd am rywfaint o aflonyddwch llafar os oedd hyn yn digwydd.

 

Roedd sylwadau'r bechgyn am eu cyrff, eu hymddangosiad a'u cydberthnasau â merched yn ymwneud â diogelwch yn hytrach na rhywioldeb. Ymddengys fod chwaeth merched am ffasiwn a cholur yn ffordd o "gael cariad". I fechgyn, roedd cael cariad yn ymwneud â bod yn rhan o'r grŵp a chael hwyl.

 

Roedd gan y bobl ifanc a oedd yn cymryd rhan yn y gwaith ymchwil farn ar stereoteipio ar sail rhyw a bwlio ond nid oeddent yn gwybod pwy oedd ar gael i wrando. Nid oedd llawer yn ystyried bod y pwysau arnynt o ddydd i ddydd yn fwlio ar sail rhyw ac ni fyddent wedi defnyddio'r polisïau bwlio o fewn eu hysgolion i ymdrin â'r pwysau hwn. Roeddent yn awyddus i siarad yn fwy agored am stereoteipio ar sail rhyw, a chael lle diogel i wneud hynny, yn hytrach na gorfod aros am wers ABCh. Roedd hyn, yn ôl ER, yn amlygu'r angen am gynnwys yr ysgol gyfan wrth fynd i'r afael â stereoteipio ar sail rhyw.

 

Tynnodd ER sylw at y prinder adnoddau sydd ar gael i ysgolion fynd i'r afael â stereoteipio ar sail rhyw. Soniodd yn gryno am adnodd a ddatblygwyd gan Undeb Cenedlaethol yr Athrawon o ran stereoteipio ar sail rhyw, a galwodd ar y Grŵp Trawsbleidiol i drafod sut y gellid defnyddio canfyddiadau'r gwaith ymchwil i gael dylanwad ar yr adolygiad presennol o'r cwricwlwm a gynhelir gan Lywodraeth Cymru.

 

Gofynnodd Jocelyn Davies AC a oedd rhai pobl ifanc yn gallu gwrthsefyll y pwysau i gydymffurfio â stereoteipiau yn llwyddiannus. Atebodd ER, os oedd ganddynt gymorth teuluol yna roeddent yn gallu gwrthsefyll y pwysau.

 

Eitem 3: Gweithredu arfer da drwy ysgolion. Siriol Burford, Ysgol Gyfun y Cymer.

 

 Dechreuodd Siriol Burford (SB) drwy dynnu sylw at y ffaith bod gwaith ar gydraddoldeb a lles yn arbennig o bwysig mewn meysydd lle mae hyder yn isel.

 

Amlinellodd ei rôl fel Dirprwy Bennaeth yn gyfrifol am les:

 

-          Llais disgyblion

-          Cynhwysiant

-          ABCh

-          Datblygiad ysbrydol, moesol a phersonol

-          Llythrennedd emosiynol

-           

Aeth ati i atgoffa pawb a oedd yn bresennol fod yr holl bethau hyn yn rhan o fframwaith lles Estyn.

 

Aeth ymlaen i sôn, yn y sawl rôl y mae wedi'i chyflawni mewn ysgolion gwahanol, mae bob amser wedi dechrau drwy greu arweinwyr ifanc, gan ei bod yn ffordd wych o ymgysylltu â phobl ifanc.

 

Yn Ysgol Glynderw lle roedd yn arfer gweithio, datblygodd arolwg lles:

 

-          Roedd yr arolwg yn cynnwys cwestiwn am Addysg Rhyw a Chydberthynas: roedd y bobl ifanc yn Ysgol Glynderw yn awyddus i gael gweithwyr proffesiynol yn dysgu Addysg Rhyw a Chydberthynas iddynt, yn hytrach nag athrawon;

-          Roedd llawer o'r bobl ifanc yn awyddus i ddysgu am gydberthnasau: roedd 38% yn Ysgol Glynderw a 47% yn Ysgol y Cymer yn awyddus i ddysgu sut i fod yn ddiogel.

 

Datblygwyd y gwaith hwn drwy wythnos cyfoethogi'r cwricwlwm: cafodd pob disgybl ym mlwyddyn 9 hyfforddiant i fod yn arweinwyr mewn sawl maes, gan gynnwys cydberthnasau iach. Roedd yr wythnos yn cynnwys themâu fel sut i fod yn ddiogel/DA; delwedd o'r corff; hunan-barch, hunanhyder; hunan-werth, dyfalbarhad a gwydnwch. Dysgodd y bobl ifanc am:

 

-          Fwlio rhywiol

-          Cam-drin domestig

-          Ffiniau

-          Pŵer a rheolaeth

-          Cymorth a chyngor

-          Addysg Rhyw a Chydberthynas

 

Yn dilyn eu hyfforddiant, cafodd y bobl ifanc y cyfle i siarad mewn cynadleddau am eu gwaith. Cyfrannodd y bobl ifanc at ymgynghoriad y Papur Gwyn ar y Bil Trais yn erbyn Menywod.

 

Roedd SB yn glir iawn mai dyma'r math o beth y dylai pobl ifanc ei ddysgu yn yr ysgol, nid llythrennedd a rhifedd yn unig, er mwyn bod yn unigolion cytbwys.  Galwodd ar y Grŵp Trawsbleidiol i ystyried sut y gellir sicrhau lles mewn ysgolion.  Dylai'r Cynghorwyr Her Ysgolion Cymru newydd a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru fod yn rhan o'r agenda hon. Dylai athrawon wybod sut i fynd i'r afael â'r mater o ran cydberthnasau iach. Bydd plant yn cyflawni mwy os ydynt yn ddiogel, yn hapus ac yn cael eu gwerthfawrogi.

 

Eitem 4:  Beth yr hoffem ei gael o ABCh? Evie a Jake, Ysgol Gyfun y Cymer.

 

Amlinellodd Evie a Jake sut yr oeddent wedi bod yn rhan o wersi ABCh a arweinir gan gyfoedion benywaidd Blwyddyn 10 Ysgol Gyfun y Cymer. Roedd y gwersi yn trafod cydberthnasau iach a delwedd o'r corff.

 

Cafodd sefyllfaoedd eu disgrifio, gyda disgyblion yn gorfod dewis a oeddent yn gywir neu'n anghywir, ac yna myfyrio ar eu hymddygiad eu hunain. Defnyddiwyd fideo hefyd i ddangos beth sy'n gwneud cydberthynas yn un iach.

 

Teimla'r ddau ddisgybl fod y gwersi a arweinir gan gyfoedion yn fwy defnyddiol a phwerus gan fod y merched a oedd yn eu dysgu yn deall sut yr oeddent yn teimlo. Hefyd, roeddent yn cael eu hedmygu, ac roedd y bechgyn yn deall ei fod yn fater difrifol.

 

Roedd y bechgyn yn edrych ar sefyllfaoedd lle roedd y merched yn wynebu pwysau, ac yn meddwl y byddai'r bechgyn, mwyaf tebyg, yn brolio am wneud y fath beth. Ond, dysgodd y gwersi ABCh iddynt y dylid parchu merched ac nad oedd yn "cŵl" rhoi pwysau ar ferched i wneud pethau nad oeddent am eu gwneud.

Nodwyd fod merched weithiau'n teimlo'n anghyfforddus wrth siarad am y senarios gwahanol a gyflwynwyd iddynt. Nid oeddent yn sylweddoli cyn y wers beth oedd yn gywir ac yn anghywir, ac nid oeddent yn siŵr beth ddylai ddigwydd mewn cydberthynas. Ar ôl y wers, roeddent yn teimlo eu bod yn deall mwy ac yn gwybod pwy oedd ar gael i wrando ar unrhyw bryderon.

 

Casgliadau

 

Gwnaed y pwynt unwaith eto am gyn lleied o adnoddau sydd ar gael i helpu athrawon i fynd i'r afael â'r mater hwn o fewn ysgolion. Galwyd ar y Grŵp i ystyried sut y gall gael dylanwad ar yr adolygiad cyfredol o'r cwricwlwm.

 

Cytunwyd y byddai cyfarfod nesaf y Grŵp cyn gynted â phosibl ar ôl cyflwyno'r Bil Trais yn erbyn Menywod, gan y byddai hyn yn rhoi amser i nodi beth sydd angen ei wneud i hyrwyddo ymhellach yr angen am ddarparu addysg ar gydberthnasau iach mewn ysgolion. Cytunwyd y byddai'r Grŵp yn cwrdd ar y cyd â'r Grŵp Trawsbleidiol ar Drais yn erbyn Menywod ar gyfer eu cyfarfod nesaf gan fod y ddau grŵp yn trafod llawer o'r un pynciau ar hyn o bryd.

 

Diolchodd Cecile Gwilym i bawb am fod yn bresennol a chafodd y cyfarfod ei gloi gan fod angen i Jocelyn Davies fynd i'r Cyfarfod Llawn.